Archive for the ‘Blog’ Category
Rhowch bwerau cynllunio nôl i Gymunedau
Wrth gymryd rhan mewn dadl ar Bolisi Cynllunio yn y Cynulliad heddiw, dywedodd Cyng. Janet Finch-Saunders AC:
“Mae angen i ni hyrwyddo canllawiau cynllunio mwy llym er mwyn rhwystro adeiladu ar safleoedd bregus amgylcheddol er enghraifft safleoedd tir glas a gorlifdiroedd.
“Mi fyddai hyn yn rhwystro datblygiadau anghynaladwy sy’n niweidio’r economi.
“’Rwyf hefyd yn galw am ail-ddifiniad o safleoedd tir llwyd i eithrio gerddi er mwyn leihau’r duedd gynyddol o ‘grafangio-gerddi’ gan ddatblygwyr.
“Grymuso cymunedau yw beth ddylai diwygiad rheolau cynllunio fod amdano, a ‘rwyf yn edrych ymlaen at gynnydd yng Nghymru mewn perthynas i ganllawiau cynllunio.”
Galw am fwy o gymorth i helpu’r economi
Wnaeth Cyng. Janet Finch-Saunders AC herio Llywodraeth Cymru i wneud fwy i helpu’r economy. Dywedodd Janet:
“O fewn 24 awr o gyhoeddi Ardaloedd Menter yn Lloegr, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gosod dyddiad cau erbyn pryd, byddai gan awdurdodau lleol y pwer i roi disgownt trethi busnes i fusnesau penodol. Mae rhyddhad ardrethi o’r fath werth hyd at £275,000 fesul busnes dros gyfnod o bum mlynedd.
“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno disgownt ardrethi busnes tebyg mewn i fodolaeth, cyn gynted ag y bo modd, er lles Ardaloedd Menter yma yng Nghymru.
“Yn ychwanegol, galwaf ar Lywodraeth Cymru i addo i bobl Cymru, y byddant yn gweithio’n agosach ‘efo’r gymuned busnes a’r sector breifat dros y misoedd i ddod.”
Lledaenwch ddarpariaeth y genhedlaeth nesaf o band-eang dros Gymru i gyd
Wnaeth Cyng. Janet Finch-Saunders AC herio Llywodraeth Cymru i wneud fwy i helpu’r economy. Dywedodd Janet:
“Targed Llywodraeth Cymru yw bydd pob busnes ac eiddo preswyl yng Nghymru ‘efo mynediad i’r genhedlaeth nesaf o band-eang erbyn 2015, a ‘rwyf yn cefnogi hyn yn gyfan gwbl.
“Byddai darpariaeth llawn o’r genhedlaeth nesaf o band-eang yn galluogi busnesau ar draws Cymru mynediad i symiau enfawr o wybodaeth gwerthfawr ac adnoddau a fyddai hefyd yn roi cyfle i fusnesau hybi eu proffil tramor, gan helpu i feithrin agwedd fwy byd-eang ar gyfer menter yng Nghymru.
“Mae yna amheuon, fodd bynnag, y bydd Llywodraeth Cymru yn methu eu targed, er enghraifft mae BT wedi amcangyfrifo mai dim ond 40% o safleoedd yng Nghymru fydd wedi cael eu darparu ‘efo band-eang erbyn 2014.
“Galwaf ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn eu pwer i sicrhau bod y targed yma ddim yn cael ei fethu.”
MANYLU – RADIO CYMRU
Fe fyddaf ar y panel yn trafod yr Adolygiad Gwariant Llawn nos 'fory am 6pm.
Guto
Ail Ddechrau Blogio! (Unwaith eto)
Yr wyf wedi bod yn euog o flogio’n achlysurol yn unig yn ddiweddar. Y mae hyn efallai’n adlewyrchu’r broses o sefydlu swyddfa yn San Steffan ynghyd a Swyddfa etholaeth law yn llaw a dygymod a bywyd gwahanol iawn i ni fel teulu. Serch hynny, y mae gennyf bellach dim llawn o staff yn yr etholaeth a hefyd yn San Steffan, y mae patrwm o gymorthfeydd trwy’r etholaeth wedi ei drefnu hyd y Nadolig ynghyd a nifer o gyfarfodydd cyhoeddus . Yn fras felly does yna ddim esgus i beidio ail ddechrau blogio!
Wedi dweud hyn, yr wyf yn weddol sicr na fydd gennyf amser yn y dyfodol i weinyddu’r blog fel y bu i mi wneud yn y gorffennol. Gan hynny yr wyf wedi dileu’r gallu i ddarllenwyr ymateb i fy sylwadau. Ymddiheuraf am hyn ond yr wyf bob amser ar gael ac felly os oes unrhyw sylw yn eich gwylltio y mae yna groeso i chwi gysylltu â mi tros y ffon neu trwy’r e-bost.
Mae fy manylion cyswllt fel a ganlyn;
Swyddfa Llundain: 020 7219 7002
Swyddfa Etholaeth: 01492 583094
E-bost: guto.bebb.mp@parliament.uk.
Diweddariad
Er mawr syndod dwi wedi derbyn sawl e-bost yn datgan y dylwn barhau i dderbyn sylwadau. Wel, cyn belled a bod pawb yn deall na fyddaf yn diweddaru y blog fwy na 2/3 gwaith pob wythnos - pam lai?
Hystings Agored – 27ain o Orffennaf
Y mae Ceidwadwyr Aberconwy wedi penderfynu cynnal proses agored, tebyg i ‘Brimary’ Americanaidd, ar gyfer dewis ymgeisydd ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2011. Fe fydd gan bawb sy’n byw yn yr etholaeth yr hawl i ddewis yr ymgeisydd hyd yn oed aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill! Does ots pwy yw eich dewis blaid, yr ydym o’r farn fod angen rhoi’r cyfle i bawb chwarae rhan yn y broses o ddewis ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer body n Aelod Cynulliad. Bydd y cyfarfod dewis hwn yn cael ei gynnal ar y 27ain o Orffennaf yn Neuadd Eglwys St. Paul yng Nghraig y Don gyda’r broses ddewis yn cychwyn am 6pm.
Nid oes angen i chwi fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol er mwyn dod i’r cyfarfod hwn. Er mwyn cael y cyfle i ddewis ymgeisydd y Ceidwadwyr yma yn Aberconwy yr oll sydd angen i chwi ei wneud yw cofrestru trwy;
e-bost: office@aberconwyconservatives.co.uk
yn ysgrifenedig: 12 Ashdown House, Riverside Business Park, Conwy. LL32 8UB.
neu trwy ymateb i’r blogiad hwn.
Byddwch cystal â darparu eich enw, cyfeiriad lle mae gennych yr hawl i fwrw pleidlais, cyfeiriad e-bost ynghyd â rhif ffôn.
Dydd Llun – 10fed o Fai 2010
Diwrnod difyr! Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr? Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll. Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd. Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.
Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad. A wnaiff y Rhyddfrydwyr?
Guto
Dyddiau Olaf yr Ymgyrch
Nifer sylweddol o gefnogwyr allan dydd Llun a dydd Mawrth gyda’r ymateb yn ardderchog - mae’n rhoi hyder gwirioneddol i ni fel tîm ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.
Yr ydym bellach yn 3/1 ON efo Paddy Power a Ladbrokes gyda’r prisiau ar gyfer Plaid a’r Lib. Dems. yn gwaethygu. Fel un sy’n hoff iawn o rasys ceffylau dwi’n llwyr ymwybodol y gall y bwci fod yn anghywir ond tydi’r odds ond yn newid pan fo’r cyhoedd yn fodlon betio. Mae’n ddiddorol!
Y mae hefyd yn grêt gweld sylwebydd gwleidyddol y BBC yn datgan fod y Ceidwadwyr yn debygol o ennill yma’n Aberconwy. Serch hynny, gochelwch rhag rhoi gormod o bwyslais ar y sylw hwn - bu i Vaughan hefyd ddarogan fod Plaid Cymru yn gyfartal gyda mi flwyddyn ddiwethaf a doedd hynny ddim yn cyd-fynd gyda’r hyn yr oeddwn yn weld yma yn Aberconwy.
Y mae’r ymgyrch i gael ein cefnogwyr i bleidleisio yn cychwyn ‘fory gyda 100 yn y tîm a 18,000 o etholwyr ar ein rhestr darged.
Y mae wedi body n ymgyrch wych – diolch i chi oll am y croeso cynnes. Fe fydd fy neges nesaf yn ymddangos dydd Gwener!
Guto
Dydd Gwener a Sadwrn
Dau ddiwrnod arall prysur o ganfasio gyda Llandudno yn cael sylw dydd Gwener cyn symud ymlaen i weithio yn Ward Capelulo dydd Sadwrn.
Yr oedd y gwaith yn ward Tudno yn hynod fuddiol - wyddwn i ddim bod yr ymgeisydd Llafur mor boblogaidd yn ei ward ei hun! Cafwyd addewidion o gefnogaeth ym mhob rhan o’r ward a hynny gan gyn gefnogwyr i Lafur a Phlaid Cymru. Fe fu i ni orffen canfasio Craig y Don gyda’r hwyr - un arall o’n wardiau allweddol sydd wedi cael canfas 100%.
Gyda thîm o 14 yr oedd bore Sadwrn yn Nwygyfylchi yn hwyl ac yn llwyddiant. Yr oedd yr ymateb a gafwyd yn dipyn cryfach na’r ganfas gymharol yn 2007 a 2005.
Guto
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Bu dydd Llun a dydd Mawrth yn brysur iawn rhwng canfasio ac ymddangosiadau radio. Cafwyd ymateb da iawn ym Mae Penrhyn fore Llun cyn i mi adael i wneud darllediad byw ar Radio Cymru. Yn y pryn hawn fe fu’r tîm yng Nghyffordd Llandudno cyn gorffen y diwrnod yn Neganwy lle bu’r ymateb yn ardderchog. Yr oedd hi hefyd yn ddifyr derbyn with e-bost i’r swyddfa ynghylch y ffaith fod Elfyn Llwyd wedi bod yn hawlio £400 y mis gan y trethdalwr am ei fwyd ond yn parhau i fynnu nad yw wedi gwneud dim o’i le. Dilyn y rheolau oedd Elfyn druan cofiwch!
Heddiw cafwyd sesiwn ardderchog ym mhentref yr Ochr (Penrhynside) cyn symud Ymlaen i Craigside a Craig y Don i orffen ein canfas o’r ward bwysig yma. Heno yr oedd y tim yn gorffen yn Neganwy gyda’r croeso yn gynnes iawn. Mae pobl yn amlwg bellach yn gwneud eu penderfyniadau ac mae’r syniad o senedd grog yn arwain at dwf yn ein cefnogaeth.
Panig llwyr yn rhengoedd Plaid Cymru yma gyda thaflen hurt (wedi ei dylunio’n fwriadol i edrych fel taflen y Blaid Lafur - camarwain ta be!) yn fy nisgrifio fel ‘hogyn Maggie’. Nifer o gelwyddau amlwg ar y daflen gan gynnwys yr honiad cywilyddus y byddai Ysbyty Llandudno yn cau dan law'r Ceidwadwyr - rhyfedd o fyd a finnau dan yr argraff fod Plaid Cymru a Llafur yn gyfrifol am y gyllideb iechyd lawr yng Nghaerdydd. Wedi dweud hynny - oes disgwyl gwell gan blaid sydd ag ymgeisydd nad yw’n fodlon bellach dod i hystings cyhoeddus i drafod yn agored gyda phleidiau eraill.
Guto