Archive for the ‘Y Wasg’ Category
Ail Ddechrau Blogio! (Unwaith eto)
Yr wyf wedi bod yn euog o flogio’n achlysurol yn unig yn ddiweddar. Y mae hyn efallai’n adlewyrchu’r broses o sefydlu swyddfa yn San Steffan ynghyd a Swyddfa etholaeth law yn llaw a dygymod a bywyd gwahanol iawn i ni fel teulu. Serch hynny, y mae gennyf bellach dim llawn o staff yn yr etholaeth a hefyd yn San Steffan, y mae patrwm o gymorthfeydd trwy’r etholaeth wedi ei drefnu hyd y Nadolig ynghyd a nifer o gyfarfodydd cyhoeddus . Yn fras felly does yna ddim esgus i beidio ail ddechrau blogio!
Wedi dweud hyn, yr wyf yn weddol sicr na fydd gennyf amser yn y dyfodol i weinyddu’r blog fel y bu i mi wneud yn y gorffennol. Gan hynny yr wyf wedi dileu’r gallu i ddarllenwyr ymateb i fy sylwadau. Ymddiheuraf am hyn ond yr wyf bob amser ar gael ac felly os oes unrhyw sylw yn eich gwylltio y mae yna groeso i chwi gysylltu â mi tros y ffon neu trwy’r e-bost.
Mae fy manylion cyswllt fel a ganlyn;
Swyddfa Llundain: 020 7219 7002
Swyddfa Etholaeth: 01492 583094
E-bost: guto.bebb.mp@parliament.uk.
Diweddariad
Er mawr syndod dwi wedi derbyn sawl e-bost yn datgan y dylwn barhau i dderbyn sylwadau. Wel, cyn belled a bod pawb yn deall na fyddaf yn diweddaru y blog fwy na 2/3 gwaith pob wythnos - pam lai?
Dydd Llun – 10fed o Fai 2010
Diwrnod difyr! Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr? Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll. Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd. Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.
Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad. A wnaiff y Rhyddfrydwyr?
Guto
Dyddiau Olaf yr Ymgyrch
Nifer sylweddol o gefnogwyr allan dydd Llun a dydd Mawrth gyda’r ymateb yn ardderchog - mae’n rhoi hyder gwirioneddol i ni fel tîm ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.
Yr ydym bellach yn 3/1 ON efo Paddy Power a Ladbrokes gyda’r prisiau ar gyfer Plaid a’r Lib. Dems. yn gwaethygu. Fel un sy’n hoff iawn o rasys ceffylau dwi’n llwyr ymwybodol y gall y bwci fod yn anghywir ond tydi’r odds ond yn newid pan fo’r cyhoedd yn fodlon betio. Mae’n ddiddorol!
Y mae hefyd yn grêt gweld sylwebydd gwleidyddol y BBC yn datgan fod y Ceidwadwyr yn debygol o ennill yma’n Aberconwy. Serch hynny, gochelwch rhag rhoi gormod o bwyslais ar y sylw hwn - bu i Vaughan hefyd ddarogan fod Plaid Cymru yn gyfartal gyda mi flwyddyn ddiwethaf a doedd hynny ddim yn cyd-fynd gyda’r hyn yr oeddwn yn weld yma yn Aberconwy.
Y mae’r ymgyrch i gael ein cefnogwyr i bleidleisio yn cychwyn ‘fory gyda 100 yn y tîm a 18,000 o etholwyr ar ein rhestr darged.
Y mae wedi body n ymgyrch wych – diolch i chi oll am y croeso cynnes. Fe fydd fy neges nesaf yn ymddangos dydd Gwener!
Guto
Gwaith Teledu Diweddar
Nos Wener fe fu i mi ymddangos ar Pawb a’i Farn a mwynhau yn arw! Gan i Elfyn Llwyd daflu cyhuddiad ataf o fod yn gelwyddgi fe fu i mi atgoffa etholwyr fod ‘gwynnach na gwyn’ o ran treuliau Aelodau Seneddol yn achos Elfyn yn golygu hawlio £400 yn ddi-dreth am fwyd bob mis.
Yn ôl un aelod o’r gynulleidfa;
“fe fu i Elfyn daflu grenade atat ac fe gafodd fom niwclear yn ôl”
Bu i mi wneud cyfweliad i safle we'r ‘Economist’ o Lanfairfechan dydd Sadwrn.
Guto
Radio Cymru – Taro’r Post 20/4/10
Fe fyddaf ar Radio Cymru am awr dros ginio ‘fory fel llefarydd y Ceidwadwyr ar raglen ‘Taro’r Post’.
Guto
Digon o Ymddangosiadau ar Radio a Theledu
Cychwyn yr wythnos dydd Llun gyda chyfweliad ar Radio Cymru yn trafod cyllid S4C. Bu i mi wneud cyfweliad i Tudno FM bore Mercher cyn ymddangos ar raglen wleidyddol wythnosol S4C sef CF99.
Dwi’n brysur!
Guto
Wythnos 2 – Y Tri Diwrnod Cyntaf
Y tywydd yn dda iawn a dechrau da iawn i’r wythnos. Daeth William Hague draw dydd Llun gyda Sir George Younger yn ymuno a ni heddiw. Dau ymweliad buddiol aeth lawr yn dda iawn gyda’r cyfryngau yn rhoi sylw da i ni trwy gyfrwng ITV, BBC, y Daily Post a Tudno FM.
Yr ydym wedi bod yn canfasio yng Nghonwy, Marina Conwy, Gogarth, Marl, Craig y Don a Bae Penrhyn hyd yma'r wythnos hon gyda’r ymateb yn gyson gadarnhaol. Y mae’n weddol amlwg fod polisi Plaid Cymru’n lleol o ymosod yn barhaol ar y Blaid Geidwadol yn gamgymeriad dybryd gyda nifer o gyn gefnogwyr Gareth Jones yn mynegi siom gyd neges barhaol gefnogol i Lafur a ddaw gan ymgyrch Plaid Cymru yma yn Aberconwy.
Guto
Yr Ail Ddiwrnod – Prysur a Diddorol
Ail ddiwrnod prysur a defnyddiol. Bellach y mae dros 18,000 o daflen y 72 awr cyntaf wedi’i dosbarthu gyda’r ymateb yn dda a chefnogwyr o’r newydd yn cysylltu â’r swyddfa’n gyson. Bu i ni hefyd fwynhau ‘chydig sylw gan y BBC ac fe dderbyniwyd nifer o e-byst a negeseuon tecst cefnogol yn dilyn fy ymddangosiad ar ‘Wales Today’ a Newyddion S4C.
Y canfasio heddiw yng Nglanwyddan a Bae Penrhyn yn dda iawn.
Hyd yma cychwyn buddiol a bywiog i’r ymgyrch!
Guto
Tudno FM – Dyma’r Podlediad
Y mae'r ddadl gafwyd ar Tudno FM ar gael yma.
Efallai mai dyma'r unig gyfle i chi glywed y pedwar ymgeisydd yn etholaeth Aberconwy yn yr un stiwdio.
Guto
Ward Tudno – 26/3/10
Tîm mawr iawn eto prynhawn heddiw (12) gan olygu ein bod bron wedi gorffen ein canfas o ward Tudno bellach. Yr ymgeisydd Llafur, Ronnie Hughes, yw’r cynghorydd lleol ac fel yr wythnos ddiwethaf dwi’n credo y byddai’n rhyfeddu o weld yr ymateb a gefais i a’r tîm. Bu i ni adnabod nifer sylweddol o addewidion o gefnogaeth gyda nifer barchus yn dod yn syth o’r Blaid Lafur i ni. Unwaith eto prin iawn oedd y dystiolaeth o unrhyw dwf yn y gefnogaeth i Blaid Cymru neu’r Rhyddfrydwyr.
Yr oedd hi hefyd yn syndod i mi faint o’r trigolion lleol oedd wedi clywed y ddadl rhwng y pedwar ymgeisydd. Fe ddylai Sion a’i wirfoddolwyr deimlo’n falch iawn o’r nifer o wrandawyr sydd gan yr orsaf mewn ardaloedd megis Ward Tudno. Yr wyf innau yn parhau’n ddiolchgar iddo am drefnu’r ddadl y dydd o’r blaen oedd yn gyfle i etholwyr wrando ar y pedwar ymgeisydd ochr yn ochr.
Guto