Archive for the ‘Cefnogwch Ni’ Category
Llanfairfechan 27/2/10
Bore Sadwrn ac yn ôl i Lanfairfechan gyda thîm cryf o ganfaswyr profiadol. Yn dilyn sesiwn faith o bum awr yr oedd pawb yn teimlo’n ffit ac yn iach ar ôl cerdded i fyny ac i lawr stadau a strydoedd y dref hynod yma sy’n codi o’r môr i lethrau Eryri.
Y mae rhai o’r golygfeydd sy’n cael ei mwynhau gan drigolion Llanfairfechan yn rhyfeddol ac mae dirywiad y dref fel Canolfan i ymwelwyr yn anodd ei ddeall o ystyried harddwch naturiol lleoliad y dref sy’n gorwedd mewn llecyn hynod rhwng y mynyddoedd a’r môr.
O ran yr ymateb ar y drysau - ardderchog eto. Yr wyf, ers cyfnod maith bellach, wedi datgan mae’r Blaid Lafur fydd y bygythiad mwyaf i fy ymgyrch yma yn Aberconwy. Y mae hyn eto’n amlwg o’r ymateb yma yn Llanfairfechan. Wn i ddim os mae’r gwelliant diweddar yn sefyllfa Llafur yn y polau piniwn ‘ta ymwybyddiaeth mae’r dewis yn etholiad 2010 yw Llywodraeth Geidwadol neu Lafur yn San Steffan ond y mae cefnogwyr Llafur yn gynyddol barod i ddatgelu hynny wrth gael eu canfasio. Bore Sadwrn yr oedd yna dwywaith gymaint bo addewidion Llafur na’r hyn a gafwyd i Blaid Cymru a’r Rhyddfrydwyr gyda’i gilydd. Yr hyn oedd yn gadarnhaol i mi oedd bod Llafur yn parhau ymhell iawn y tu ôl i’r addewidion Ceidwadol a gofnodwyd.
I gloi, ymddengys fod ymgeisydd Plaid Cymru wedi ‘tweetio’ (oes ‘na air Cymraeg am y ferf ryfedd yma?) fod ymgyrchwyr Plaid Cymru wedi bod yn Llanfairfechan dydd Sadwrn hefyd. Rhyfedd iawn. Bu i ni fel tim ganfasio pump o stadau tai a dwy brif stryd y dref heb weld unrhyw ymgyrchydd Plaid Cymru. Hyd yn oed yn fwy rhyfeddol ni ddywedwyd wrthym gan unrhyw un o’r trigolion fod Plaid Cymru allan yn canfasio. Mae’n gwneud i rywun feddwl beth yn union yw dehongliad Plaid Cymru o ymgyrchu.
Guto