MATERION LLEOL
  1. (valid email required)
 

Archive for the ‘Addysg’ Category

Dydd Llun – 10fed o Fai 2010

Diwrnod difyr!  Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.  Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr?  Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll.  Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd.  Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.

Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad.  A wnaiff y Rhyddfrydwyr?

Guto

Colli am y tro cyntaf yn ymgyrch 2010

Wel yn dilyn yr hystings ardderchog yn Ysgol John Bright fe ddaeth y canlyniadau i law heddiw.  Buddugoliaeth i Mike a'r Rhyddfrydwyr.  Ymddengys fy mod yn ymgiprys am yr ail safle gyda'r ymgeisydd Llafur ond ddaru mi ddim llwyddo i guro hwnnw chwaith!

Felly'r canlyniad oedd;

1. Rhyddfrydwyr

2. Llafur

3. Ceidwadwyr

4. Plaid Cymru (gyda nifer fychan iawn o bleidleisiau oedd yn llai na 2 ond yn fwy na 0!)

Diolch i'r ysgol am y trefniadau ac i'r athrawon a'r disgyblion am y croeso.

Guto