Archive for the ‘Yr Economi’ Category
MANYLU – RADIO CYMRU
Fe fyddaf ar y panel yn trafod yr Adolygiad Gwariant Llawn nos 'fory am 6pm.
Guto
Dydd Llun – 10fed o Fai 2010
Diwrnod difyr! Cyfarfod o bwyllgor y 1922 heno am 6pm oedd yn gefnogol i safbwynt arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Fydd y cynnig yn ddigon i’r Rhyddfrydwyr? Os eu dewis fydd cefnogi Llafur yna da ni mewn twll. Yr hyn sydd ei angen yw llywodraeth gadarn a hynny am 4 blynedd. Ni all clymblaid Llafur/Rhyddfrydwyr/SNP/PC/SDLP/DUP wneud hyn.
Fel Plaid yr ydym wedi ymdrechu i gyfaddawdu er bydd y wlad. A wnaiff y Rhyddfrydwyr?
Guto
Ward Pensarn – 8/4/10 Sesiwn y Bore
Bore da ym Mhensarn gyda nifer helaeth o bleidleisiau Ceidwadol mewn ward sy’n gartref i un o fy ngwrthwynebwyr, yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Yr oedd yna dim da allan bore heddiw ond yr oedd yn rhaid i mi adael yn gynnar er mwyn croesawu Francis Maude a Cheryl Gillan yng ngorsaf Cyffordd Llandudno.
Cafwyd ymweliad da gyda Crest Co-Operative ac yr oedd pob un ohonom yn gwerthfawrogi'r gwaith da sy’n cael ei wneud gan y cwmni cymunedol hwn. Y mae’n fater o dristwch mawr fod y cwmni wedi colli cytundeb sylweddol gydag adran amgylcheddol Cyngor Conwy yn ddiweddar ond o ystyried natur arloesol a gweithgar y staff a’r tîm rheoli yr wyf yn weddol sicr y bydd y cwmni’n parhau i dyfu er gwaethaf y siomedigaeth yma.
Fe fyddwn yn canfasio ym Marl prynhawn heddiw gyda’r bwriad o fod yn canfasio ym Mae Penrhyn heno.
Guto
BBC Radio Cymru – Cyllideb 2010, Post Prynhawn
Yn dilyn y drafodaeth ar Tudno FM bu i mi yrru draw i Fangor er mwyn cyfrannu i’r Post Prynhawn. Yr oedd y drafodaeth ynghylch y pedair plaid ond mae’n debyg mae’r ddadl rhyngof a Rhodri Morgan fydd yn destun trafod. Y mae’r drafodaeth yn cychwyn tua 15 munud i mewn i’r podlediad hwn ond mae’r hwyl yn cychwyn ar ôl tua 25 munud!
Yn fras bu i’r cyn Prif Weinidog ymdrechu i gamarwain y gwrandawyr trwy honni bod diweithdra Cymru (9.7%) yn is yn y dirwasgiad hwn na’r hyn a fu mewn cyfnodau blaenorol. Bu i minnau nodi fod hyn yn anwybyddu’r ffaith fod 25% o’r boblogaeth oed gwaith yng Nghymru, sef un mewn pedwar, yn economaidd anweithredol. Mewn geiriau eraill mae un o bob pedwar Cymro a Chymraes oed gwaith heb waith. Dro ar ôl tro fe fu i mi bwyso’r pwynt hwn ond nid oedd gan Rhodri’r gonestrwydd i gydnabod y gwir. Deallaf fod ein cyn Brif Weinidog yn ymddeol y flwyddyn nesaf - nid cyn pryd o ystyried y perfformiad anonest hwn.
Cynhadledd y Ceidwadwyr yn Llandudno
Am gynhadledd ardderchog!
Gan amlaf nid wyf yn un sy’n mwynhau cynadleddau gwleidyddol y Pleidiau rhyw lawer ond y penwythnos diwethaf yn Llandudno bu i mi fwynhau bron bob munud o’r penwythnos. Fel yr aeth y gynhadledd yn ei blaen yr oedd hyder a brwdfrydedd yr aelodau yn heintus gyda’r ffaith ein bod o fewn ychydig wythnosau i etholiad hollol allweddol yn gynyddol amlwg i bawb.
Y mae’r ffactorau sy’n allweddol i’r etholiad sydd ar y gorwel yn anferthol gyda dyfodol economaidd ac ariannol y DU yn y fantol oni fydd y Blaid Geidwadol yn rhoi terfyn ar dair blynedd ar ddeg o gamgymeriadau a methiannau'r Blaid Lafur. Y mae’n rhaid rhoi terfyn ar dair blynedd ar ddeg o ymosodiadau gan Lafur ar grwpiau megis busnesau bychain a chymunedau gwledig ac unrhyw un arall sy’n trio gwneud y peth cywir yn eu bywydau pob dydd megis cynilo ar gyfer ymddeoliad neu fod o ddifrif am addysg.
Fe gafwyd areithiau ardderchog gan David Cameron, Phillip Hammond a’r tîm Cymreig sef Cheryl Gillan a Nick Bourne. Cafwyd asesiad manwl a gofalus o’r modd y byddai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn cyd-weithio gyda’r Cynulliad gan David Jones ynghyd ag araith yn llawn ymroddiad a gweledigaeth gan Stephen Crabb, AS Preseli-Penfro.
I grynhoi yr oedd y penwythnos yn un difyr a heriol gyda syniadau amrywiol yn ysgogi trafodaeth. Yr hyn oedd yn hollol amlwg trwy’r cyfan oedd brwdfrydedd yr aelodau ac ymroddiad amlwg yr ymgeiswyr. Er mwyn Cymru a’r DU y mae’n allweddol ein bod yn gadael y gynhadledd hon gyda’r bwriad o weithio’n ddiflino i roi curfa go iawn i Lafur a’i gweision bychain ym Mhlaid Cymru.
Y mae’r tîm yn Aberconwy yn barod am y frwydr. Ymunwch a ni - fe fydd yna groeso cynnes iawn i chi oll.
