Dyddiau Olaf yr Ymgyrch
This post is also available in: EnglishNifer sylweddol o gefnogwyr allan dydd Llun a dydd Mawrth gyda’r ymateb yn ardderchog - mae’n rhoi hyder gwirioneddol i ni fel tîm ychydig ddyddiau cyn yr etholiad.
Yr ydym bellach yn 3/1 ON efo Paddy Power a Ladbrokes gyda’r prisiau ar gyfer Plaid a’r Lib. Dems. yn gwaethygu. Fel un sy’n hoff iawn o rasys ceffylau dwi’n llwyr ymwybodol y gall y bwci fod yn anghywir ond tydi’r odds ond yn newid pan fo’r cyhoedd yn fodlon betio. Mae’n ddiddorol!
Y mae hefyd yn grêt gweld sylwebydd gwleidyddol y BBC yn datgan fod y Ceidwadwyr yn debygol o ennill yma’n Aberconwy. Serch hynny, gochelwch rhag rhoi gormod o bwyslais ar y sylw hwn - bu i Vaughan hefyd ddarogan fod Plaid Cymru yn gyfartal gyda mi flwyddyn ddiwethaf a doedd hynny ddim yn cyd-fynd gyda’r hyn yr oeddwn yn weld yma yn Aberconwy.
Y mae’r ymgyrch i gael ein cefnogwyr i bleidleisio yn cychwyn ‘fory gyda 100 yn y tîm a 18,000 o etholwyr ar ein rhestr darged.
Y mae wedi body n ymgyrch wych – diolch i chi oll am y croeso cynnes. Fe fydd fy neges nesaf yn ymddangos dydd Gwener!
Guto