Hystings Agored – 27ain o Orffennaf
This post is also available in: EnglishY mae Ceidwadwyr Aberconwy wedi penderfynu cynnal proses agored, tebyg i ‘Brimary’ Americanaidd, ar gyfer dewis ymgeisydd ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2011. Fe fydd gan bawb sy’n byw yn yr etholaeth yr hawl i ddewis yr ymgeisydd hyd yn oed aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill! Does ots pwy yw eich dewis blaid, yr ydym o’r farn fod angen rhoi’r cyfle i bawb chwarae rhan yn y broses o ddewis ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer body n Aelod Cynulliad. Bydd y cyfarfod dewis hwn yn cael ei gynnal ar y 27ain o Orffennaf yn Neuadd Eglwys St. Paul yng Nghraig y Don gyda’r broses ddewis yn cychwyn am 6pm.
Nid oes angen i chwi fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol er mwyn dod i’r cyfarfod hwn. Er mwyn cael y cyfle i ddewis ymgeisydd y Ceidwadwyr yma yn Aberconwy yr oll sydd angen i chwi ei wneud yw cofrestru trwy;
e-bost: office@aberconwyconservatives.co.uk
yn ysgrifenedig: 12 Ashdown House, Riverside Business Park, Conwy. LL32 8UB.
neu trwy ymateb i’r blogiad hwn.
Byddwch cystal â darparu eich enw, cyfeiriad lle mae gennych yr hawl i fwrw pleidlais, cyfeiriad e-bost ynghyd â rhif ffôn.