MATERION LLEOL
  1. (valid email required)
 

Rhowch bwerau cynllunio nôl i Gymunedau

This post is also available in: English

Wrth gymryd rhan mewn dadl ar Bolisi Cynllunio yn y Cynulliad heddiw, dywedodd Cyng. Janet Finch-Saunders AC:

 “Mae angen i ni hyrwyddo canllawiau cynllunio mwy llym er mwyn rhwystro adeiladu ar safleoedd bregus amgylcheddol er enghraifft safleoedd tir glas a gorlifdiroedd.

 “Mi fyddai hyn yn rhwystro datblygiadau anghynaladwy sy’n niweidio’r economi.

 “’Rwyf hefyd yn galw am ail-ddifiniad o safleoedd tir llwyd i eithrio gerddi er mwyn leihau’r duedd gynyddol o ‘grafangio-gerddi’ gan ddatblygwyr.

 “Grymuso cymunedau yw beth ddylai diwygiad rheolau cynllunio fod amdano, a ‘rwyf yn edrych ymlaen at gynnydd yng Nghymru mewn perthynas i ganllawiau cynllunio.”

Leave a Reply

Croeso i Wefan Newydd Ceidwadwyr Aberconwy

Fy enw yw Guto Bebb ac dwi'n gobeithio cael y fraint o'ch cynrychioli fel eich Aelod Seneddol.  yr wyf yn llawn werthfawrogi nad mater o weithio am bedair wythnos cyn etholiad yw bod yn Ymgeisydd Seneddol.  I wneud y gwaith yn iawn mae angen gweithio’n galed a chyson ac fe ddylai’r safle hwn gynnig cyflwyniad i’r gwaith yr wyf yn ei wneud o wythnos i wythnos ynghyd â thrafodaeth o faterion y dydd.

Mae gwleidyddion yn destun gwawd ar hyn o bryd a hawdd deall pam.  Y mae ganddom lywodraeth wan a blinedig ynghyd â Senedd sy’n cynnwys gormod o unigolion sydd wedi gweithredu’n farus ac anheilwng o ffydd yr etholwyr.  Er gwaethaf hyn yr wyf yn dal i gredu y gall gwleidyddiaeth wneud gwahaniaeth.  Yr wyf wedi bod yn hunangyflogedig ers yn 23 oed ac yr wyf yn llawn werthfawrogi pa mor galed sy’n rhaid gweithio er mwyn talu’r biliau, cynnal teulu a chynllunio am y dyfodol.  Byddai’r cefndir hwn yn fodd o sicrhau y byddwn bob amser yn ystyriol a gofalus o ddefnydd y llywodraeth o arian cyhoeddus.

Fel y bu i mi ddweud, fe all gwleidyddiaeth fod yn berthnasol ac mae’r canlynol yn esiamplau o faterion sydd angen sylw llywodraeth egniol newydd;

1. Bydd y DU yn benthyca £175biliwn y flwyddyn yma’n unig.  Y mae hyn yn fwy na’r holl dreth incwm a gesglir mewn blwyddyn.  Yn 2010/11 yr ydym yn debygol o orfod benthyca hyd yn oed mwy.  A oes hawl ganddom i greu’r fath ddyled gan ddisgwyl i’n plant a phlant ein plant dalu’r pris ar ein rhan?

2. Y mae gwario ar y Gwasanaeth Iechyd wedi cynyddu 300% ers 1997.  Y mae pethau wedi gwella – yr wyf yn gwerthfawrogi hyn ac mae fy nheulu wedi elwa o wasanaeth Ysbyty Gwynedd ac Alder Hay.  Ond a yw pethau dair gwaith yn well na’r sefyllfa yn 1997?  Oes angen byddin o weinyddwyr yn derbyn cyflogau o £50mil,£100mil a hyd yn oed mwy?  Y mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi gwella ond mae yna hefyd wastraff sylweddol o fewn y drefn fel y mae’n bodoli sydd angen sylw.

3. Beth am ein trefniadau pensiwn?  Yn 1997 yr oedd gan Brydain fwy o gynilion pensiwn na unrhyw wlad arall yn Ewrop.  Y mae’r cynilion hyn wedi eu trethu gan Lafur gyda mwy na £100billion wedi’i golli ers 1997.  Bellach mae ganddom ddau fath o weithwyr.  Y rhai hynny yn y Sector Gyhoeddus lle mae pob trethdalwr yn talu am eu trefniadau pensiwn hael ac yna’r mwyafrif llethol yn y Sector Breifat sy’n mynd i dderbyn pensiwn y wladwriaeth o £90 yr wythnos gan ychwanegu rhyw £40 ar gyfartaledd oherwydd eu cynilion.  A yw hyn yn deg?

4. Y mae angen rhoi Gogledd Cymru yn ôl ar y map.  Y mae Caerdydd yn anghofio amdanom yn rhy hawdd.  Y mae’n rhaid i’r Cynulliad weithio dros bawb nid Caerdydd a’r de ddwyrain yn unig.

Rhai manylion personol:

Bu i mi sefyll yn etholaeth Conwy ar ran y Ceidwadwyr yn 2005 pryd y llwyddais, gyda’ch cefnogaeth, i leihau'r mwyafrif Llafur yn sylweddol.  Bellach mae gan Lafur fwyafrif o lai na 500 drosof yn yr etholaeth hon.

Yr wyf yn briod ag Esyllt ers un mlynedd ar bymtheg ac mae ganddom bump o blant.  Cefais fy ngeni a fy magu yng Ngogledd Cymru gyda fy rhieni yn hanu o Fangor.  Yr wyf wedi gweithio yn yr ardal hon ar hyd fy oes.  Pan ddaw’r etholiad fe fyddwn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.

Rhowch bwerau cynllunio nôl i Gymunedau

Wrth gymryd rhan mewn dadl ar Bolisi Cynllunio yn y Cynulliad heddiw, dywedodd Cyng. Janet Finch-Saunders AC:

 “Mae angen i ni hyrwyddo canllawiau cynllunio mwy llym er mwyn rhwystro adeiladu ar safleoedd bregus amgylcheddol er enghraifft safleoedd tir glas a gorlifdiroedd.

 “Mi fyddai hyn yn rhwystro datblygiadau anghynaladwy sy’n niweidio’r economi.

 “’Rwyf hefyd yn galw am ail-ddifiniad o safleoedd tir llwyd i eithrio gerddi er mwyn leihau’r duedd gynyddol o ‘grafangio-gerddi’ gan ddatblygwyr.

 “Grymuso cymunedau yw beth ddylai diwygiad rheolau cynllunio fod amdano, a ‘rwyf yn edrych ymlaen at gynnydd yng Nghymru mewn perthynas i ganllawiau cynllunio.”