Yr Ymgeisydd
This post is also available in: English
Yr ymgeisydd - Guto Bebb
Ymladdodd Guto ei etholiad cyntaf ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fel ymgeisydd seneddol yn is-etholiad Ogwr. Yn dilyn y bedydd tan hwn cafodd ei ddewis fel ymgeisydd ar gyfer etholaeth Conwy yn etholiadau’r Cynulliad yn 2003. Yn dilyn ymgyrch gadarn bu i Guto gyfrannu at gynyddu pleidlais y Ceidwadwyr o 18% i 25% gan ddod o fewn 5% i’r ymgeisydd Llafur buddugol. Er mwyn adeiladu ar y llwyddiant hwn cafodd Guto ei ddewis yn Ymgeisydd Seneddol ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2005. Bu’r ymgyrch yn llwyddiant gyda’r canlyniad yn dangos gogwydd o 5% i’r Blaid Geidwadol yng Nghonwy o gymharu â llai na 1% trwy Gymru. Yn dilyn ei lwyddiant wrth gael ei gynnwys fel un o’r ‘A list’ dethol o ymgeiswyr Ceidwadol cafodd Guto ei fabwysiadu yn unfrydol fel ymgeisydd seneddol y Blaid Geidwadol yn Aberconwy ym mis Medi 2007.
Diddordeb arall cyson sydd gan Guto yn y byd gwleidyddol yw materion Ewropeaidd. Yn aelod o Gyngor Cymru o ‘Business for Sterling’ bu Guto’n llefarydd amlwg dros y grŵp pwysa hwn yn ystod y cyfnod rhwng 2000 a 2003. Fel y daeth hi’n amlwg na fyddai Prydain yn mabwysiadu’r arian sengl Ewropeaidd bu i Guto ymuno gyda ‘Open Europe’ sef y corf fu’n gyfrifol am yr ymgyrch ‘I want a Referendum’. Penllanw'r gwaith yma oedd dewis etholaeth Aberconwy ar gyfer pleidlais bost ar fater cytundeb Lisbon. Bu i’r ymgyrch ddenu 37% i bleidleisio gyda 90% o’r rhai hyn yn gofyn am yr hawl i ddatgan barn ar y cytundeb.
Cafodd Guto ei eni a’i fagu yng Ngogledd Cymru ac y mae’n un o raddedigion Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn 1993 bu iddo sefydlu Partneriaeth Egin, sef ymgynghoriaeth ddatblygu economaidd, sydd wedi masnachu’n gyson ers un mlynedd ar bymtheg bellach. Bu i Guto hefyd sefydlu a rheoli siop lyfrau mewn partneriaeth gyda’i wraig cyn gwerthu’r fenter yn 2002. Y mae Guto hefyd yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes Innovas Cymru ac y mae wedi gweithio ar brosiectau sylweddol iawn gyda’r cwmni hwn dros y tair blynedd ddiwethaf. Trwy ei waith a hefyd ei ymgyrchu gwleidyddol cyson y mae Guto wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o anghenion economi wledig ynghyd â’r her sy’n wynebu busnesau bychain yng Nghymru.
Yn briod ag Esyllt ers un mlynedd ar bymtheg y mae ganddynt bump o blant - ganwyd yr efeilliaid yn ystod ymgyrch Etholiad Cyffredinol 2005! Yn unigolyn addysgedig a brwdfrydig y mae Guto’n uchel ei barch fel cyfrannwr cyson a chytbwys ar faterion Cymreig a Phrydeinig. Y mae’n credu’n gryf mewn ymgynghori gyda’r cyhoedd ac yn gryf o’r farn fod angen tegwch mewn bywyd cyhoeddus. Yn allweddol y dyddiau hyn y mae’n cynnig profiad helaeth o’r byd go iawn yn wahanol i'r nifer cynyddol o wleidyddion sydd erioed wedi gwneud unrhyw waith arall.
Y mae ganddo ddiddordeb yn eich syniadau a’ch barn felly ymunwch yn y drafodaeth!