LOCAL ISSUES
  1. (valid email required)
 

Dirywiad yr Economi Wledig yng Nghymru ers 1997

Daeth ffeithiau gwirioneddol frawychus am sefyllfa’r economi wledig i ddwylo’r Blaid Geidwadol heddiw sy’n dangos maint y dirywiad a ddioddefwyd ers 1997.  Yr hyn sy’n wirioneddol frawychus yw maint y dirywiad yma yng Nghymru.

 

Mewn termau cyffredinol cafwyd lleihad mewn termau real yn y ffigyrau ‘Gross Value Added’ o’r sector amaeth, coedwigaeth, pysgota a hela yn y DU ers 1997.  Y mae’r ffeithiau fel a ganlyn;

 

£miliwn

 

 

1997

2007

   

 

 

 

 

 

 

Y Deyrnas Unedig

10,009

9,306

-703

-7.0%

CYMRU

634

202

-432

-68.1%

 

Yn 1997 yr oedd yr economi wledig yma yng Nghymru yn gwneud yn well na’r disgwyl gydag ein canran o’r sector mewn termau Prydeinig yn 6.3% mewn cymhariaeth a chanran Cymru o’r boblogaeth, sef 5%. 

 

O ganlyniad i ddeng mlynedd o lywodraeth Lafur (ac with blynedd o fodolaeth y Cynulliad) y mae Cymru wedi bod yn gyfrifol am 60% o’r cwymp ym maint y sector amaeth o fewn economi Prydain.

 

Y mae Cymru bellach yn gyfrifol am ychydig llai na 2.2% o’r Sector Amaeth ym Mhrydain.  Y mae’r ystadegau hyn yn cadarnhau fod y Llywodraeth Lafur ynghyd â Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd wedi llywodraethu dros gyfnod o gwymp sylweddol ym mherfformiad yr economi wledig yma yng Nghymru.  A yw’n syndod o gwbl fod ardaloedd gwledig yn parhau i golli pobl Ifanc, gwasanaethau ac ysgolion mewn sefyllfa o’r fath?

 

Guto Bebb

    

Leave a Reply

Announcements

Llandudno
Town
Council
Elections Local Elections
May 2012