Penmachno 26/2/10
I Benmachno brynhawn Gwener ac ymateb rhyfeddol o dda. Do, fe gafwyd cefnogwyr i Blaid Cymru ond fe gafwyd mwy oedd wedi cael llond bol o ddiffyg ymdrech y blaid honno dros yr ardal.
Yn syml iawn y mae’r pentref wedi cael AS Plaid Cymru ers 1983 ac yn un o bedair ward etholodd gynghorydd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 2008. Y mae’r cynghorydd dan sylw yn aelod o Blaid Cymru ac fe ddylai deimlo cywilydd mawr am ei ddifaterwch llwyr o’r ardal. Bu i mi dderbyn cwynion am broblemau gyda’r toiledau cyhoeddus, diffyg rheolaeth parcio, diffyg maes parcio a glanweithdra ar y stryd. Materion i Gyngor Conwy yw'r rhain. Yr oedd POB UN o’r rhai gwynodd yn drigolion lleol gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt. Doedd gan yr un ohonynt - DIM UN - wybodaeth ynghylch pwy oedd eu cynghorydd Plaid Cymru lleol.
Fel yn achos rhannau helaeth o Feirionnydd a Dwyfor (drodd at Llaid Gwynedd yn 2008) ymddengys fod Plaid Cymru, fel yn achos y Blaid Lafur yn y cymoedd, yn trin pobl Penmachno ac Uwch Conwy fel dim mwy na ffynhonnell bleidleisiau - cywilydd iddynt.
Mae Penmachno yn haeddu llawer gwell ac wedi 27 mlynedd o AS Plaid Cymru a dau dymor o gynghorydd Plaid Cymru heb wrthwynebiad y mae’r angen am newid yn amlwg i drigolion lleol. Nid cyn pryd chwaith!
To Penmachno on Friday. A good session and a large team. Yes, we found a few Plaid supporters but we found more residents who were sick and tired of the way in which Plaid MPs and councillors have taken them for granted.
I received complaints on the doorstep about issues such as on street car parking, dog fouling, a lack of a central car park in the village and the state of the public toilets. I stated that all these issues were issues that should be dealt with by their local councillor. Not a single one of the residents knew who he was and they could not even name him. He was, as a plaid candidate, elected unopposed in 2008. Unopposed and unwilling to work it would seem.
As with large parts of Meirionnydd and Dwyfor (which voted for Llais Gwynedd and not Plaid Cymru in 2008) it would appear to be the case that Plaid Cymru see Penmachno and Uwch Conwy as nothing more than a source of votes. It is apparent that the elected members, councillor and MP, has done almost nothing to deal with issues in the village and to communicate with local residents – shame on them.
After 27 years of a Plaid MP and two terms of an un-elected Plaid councillor Penmachno is crying out for change. Plaid Cymru will be surprised but that change is coming!
Guto